Lis McLean
gwleidydd
Gwleidydd a threfnydd o Gymru yw Lis McLean (enw llawn: Lisbeth Gay McLean). Fe'i hetholwyd yn Aelod o'r Senedd ar restr Plaid Cymru ym Mhontypridd Cynon Merthyr (etholaeth Senedd) yn etholiad 2026.
| Lisbeth McLean AS | |
|---|---|
Llun swyddogol, 2026 | |
| Aelod o'r Senedd dros Pontypridd Cynon Merthyr | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 8 Mai 2026 | |
| Manylion personol | |
| Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Gyrfa
golyguGadawodd yr ysgol pan oedd hi'n 14, a mynd i weithio ar iard sgrap gyda'i thad.[1] Astudiodd yng Ngholeg Harlech, lle cyfarfu â'i gŵr. Bu'n brif swyddog Menter Iaith Merthyr Tudful, a hi oedd un o sylfaenwyr Canolfan Soar lle bu'n gweithio gyda Jamie Bevan ac eraill.[1]
Bywyd personol
golyguMagwyd Lis McLean yn Saesneg er bod ei mam yn siarad Cymraeg - ond fe benderfynodd ail-gydio yn yr iaith a magodd ei phlant ei hun yn Gymraeg[1]. Mae hi'n fam i'r actores Bethan McLean a'r gantores Delyth McLean.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Beti a'i Phobol - Beti a'i Phobol: Lis McLean - BBC Sounds". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-05-18.