Basij
Milisia lledfilwrol gwirfoddol yn Iran sy'n un o bump cangen Corfflu'r Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd (IRGC) yw'r Basij (Perseg: بسیج; yn llythrennol "Byddino"), yn llawn Sāzmān-e Basīj-e Mostażʿafīn (سازمان بسیج مستضعفین; "Cyfundrefn dros Fyddino'r Gormesedigion"). Mae'n gyfrifol am ddiogelwch mewnwladol a gorfodi'r gyfraith, ac hefyd yn llu wrth gefn. Mae'r Basij yn cynnwys dros 20 miliwn o aelodau gwirfoddol, rhyw hanner miliwn ohonynt ar gael i'w galw yn syth i'r gad, a 90,000 yn filwyr cynorthwyol llawn-amser.[1] [2]
Baner y Basij. | |
| Enghraifft o: | militia |
|---|---|
| Rhan o | Corfflu'r Gwarchodlu Chwyldroadol Islamaidd |
| Dechrau/Sefydlu | 1979 |
| Pennaeth y sefydliad | Commander of Basij |
| Sylfaenydd | Ruhollah Khomeini |
| Isgwmni/au | The Student Basij, The pupils Basij, Women's Basij Organization, Ashura Brigades |
| Enw brodorol | بسیج |
| Gwladwriaeth | Iran |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/089lly |
| Quora | Basij |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Basij. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mai 2026.
- ↑ (Saesneg) Hossein Aryan, "Iran's Basij Force -- The Mainstay Of Domestic Security", Radio Free Europe/Radio Liberty (7 Rhagfyr 2008). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2022.